Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd yma’n berthnasol i bloodybrilliant.wales

Caiff y wefan ei chynnal ar ran Cydwasanaethau GIG Cymru. Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan yma. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylet ti allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib, fel bod modd i bawb ei ddeall

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan yma

  • Mae’n bosib y bydd peth testun botymau yn ailadrodd
  • Nid yw pob deunydd i’w lawrlwytho wedi’i dagio ac yn hygyrch

Adborth ac adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan yma

Rydyn ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan yma. Os byddwch chi’n profi unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen yma, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: [email protected]

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch chi’n fodlon gyda sut rydyn ni wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae Cydwasanaethau GIG Cymru yn ymroddedig i wneud y wefan yma’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan yma’n cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd nifer o ddiffygion o ran cydymffurfio ac eithriadau sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Nid yw’n cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Mae’n bosib y bydd testun rhai botymau’n ailadrodd – mae’n bosib y bydd rhai botymau ar dudalennau’n ailadrodd, fel ‘darllen mwy’ neu ‘lawrlwytho’r canllaw’
  • Nid yw popeth i’w lawrlwytho wedi’i dagio ac yn hygyrch – nid yw pob un mewn fformat PDF sydd wedi’i dagio i’w ddefnyddio gyda darllenydd sgrin, ond mae’r holl wybodaeth yma ar y wefan felly bydd y rhai sydd angen cael mynediad at y wybodaeth gyda darllenydd sgrin yn cael yr un wybodaeth â’r rhai sydd heb ddarllenydd sgrin

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni’n cynnal gwaith monitro i adolygu hygyrchedd y wefan yn barhaus. Rydyn ni’n defnyddio’r gwaith monitro yma i nodi ac i drwsio unrhyw broblemau newydd sy’n codi. Rydyn ni hefyd yn ymateb i unrhyw broblemau a nodir yn gyflym ac yn effeithiol.

Paratowyd y datganiad yma ym mis Mai 2021. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Tachwedd 2021.